Ifor Lloyd
Cafodd Ifor Lloyd ei eni i deulu a oedd eisoes yn bobl cobiau Cymreig. Roedd ei dad-cu a'i hen ewythr ymhlith sefydlwyr Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig. Ym 1974 cymerodd Ifor a'i wraig Myfanwy at yr awenau, ac ers hynny mae Bridfa Derwen wedi mynd o nerth i nerth, gan fridio cobiau y mae bridwyr ceffylau dros y byd yn eu hedmygu. Dros y can mlynedd diwethaf, gwerthwyd cobiau Derwen i ddeunaw o wledydd, gan gynnwys Pakistan a Canada. Daeth llwyddiant rheolaidd mewn sioeau nodedig, Sioe Frenhinol Cymru yn arbennig, ac yn ystod y blynyddoedd diweddar bu Ifor yn feirniad mewn digwyddiadau rhyngwladol o fri. Mae Ifor, Myfanwy a Dyfed yn hynod falch o gyfraniad Bridfa Derwen i fyd y cobiau Cymreig.